GNOME 2.14 - Nodiadau'r Fersiwn

1. Beth sy'n Newydd i Ddefnyddwyr

Mae canolbwynt Prosiect GNOME ar ddefnyddwyr a defnyddioldeb yn parhau yn GNOME 2.14 sydd â channoedd o gywiriadau i namau, a nodweddion newydd mae defnyddwyr wedi gofyn amdanynt. Mae cynifer o welliannau fel ei bod hi'n amhosib rhestru pob newid sydd wedi'i wneud. Gobaith y dudalen hon yw amlygu rhai o'r newidiadau fwyaf cyffrous wnaed er budd y defnyddwyr yn y fersiwn hon o GNOME.

1.1. Gwelliannau i'r Llwyfan

Yn debyg i diwnio car, mae'n peirianwyr medrus wedi ymdrechu i wella amryw rannau o GNOME i fod cyn gyflymed â phosib. Mae nifer o nodweddion pwysig penbwrdd GNOME yn awr dipyn yn gyflymach, gan gynnwys rendro testun, dyrannu cof, a nifer o raglenni unigol. Mae rendro ffontiau a dyrannu cof yn gyflymach yn cynnig mantais i bob rhaglen sy'n seiliedig ar GNOME a GTK+, heb angen ail-grynhoi.

Mae nifer o raglenni wedi cael sylw arbennig i sicrhau eu bod yn rhoi'r perfformiad gorau posib. Mae Terfynell GNOME, yr efelychydd terfynell i benbwrdd GNOME, wedi ei optimeiddio mewn sawl ffordd er mwyn ei gyflymu, ac er mwyn iddo ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithiol. Mae Gwyliwr Logiau GNOME yn awr yn cychwyn dros 20 waith yn gyflymach nag o'r blaen.

Ffigwr 1Gwelliannau i berfformiad Terfynell GNOME rhwng GNOME 2.12 a 2.14. Dangosir yr amser a gymerir i ddangos rhestr o bob gair Saesneg ar y sgrin.
Ffigwr 2Gwelliannau i berfformiad Gwyliwr Logiau GNOME rhwng GNOME 2.12 a 2.14. Yr amser a gymerir i gychwyn y rhaglen a darllen ffeil logio 2.9MB o faint.

1.2. Chwilio Cyfoethocach

Mae trefnydd ffeiliau GNOME, Nautilus, erbyn hyn yn cynnig rhyngwyneb chwilio pwerus sydd ar gael wrth wasgu (Ctrl-F) ar y penbwrdd neu mewn ffenestr trefnu ffeiliau.

Ffigwr 3Chwilio gyda Nautilus

Gellir llunio chwiliadau yn hawdd, ac yna eu cadw mewn plygell neu ar y penbwrdd. Wedyn, gellir agor y chwiliadau sydd wedi eu cadw fel plygell, pan fo angen.

Os yw fframwaith chwilio Beagle ar gael, bydd Nautilus yn cymryd mantais ohono er mwyn chwilio cyd-destun cyflymach.

1.3. Mwy o Gymorth

Mae porwr cymorth GNOME hefyd yn cynnwys nodweddion newydd er mwyn chwilio'r cymorth a'r dogfennau sydd wedi'u gosod ar eich peiriant. Gall yn awr gyrchu ffeiliau Info GNU yn ogystal â thudalennau 'man' traddodiadol UNIX. Felly ynghyd â dogfennaeth safon uchel GNOME, gellir chwilio'n chwim y rhan fwyaf o'r ddogfennaeth sydd ar eich system.

Ffigwr 4Chwilio Cymorth, gweld ffeiliau Info GNU a darllen tudalennau 'man'

Yn yr un modd â'r trefnydd ffeiliau, fedr defnyddwyr sydd â'r fframwaith chwilio Beagle ei ddefnyddio er mwyn chwilio hyd yn oed yn gyflymach ac yn fwy cywir.

1.4. Ekiga

Ekiga yw'r enw newydd ar GNOME Meeting. Dyma gleient llais a fideo-tros-IP GNOME. Mae Ekiga'n cynnal protocolau SIP a H323. Newydd ei ychwanegu at Ekiga mae SIP, sy'n brotocol poblogaidd a ddefnyddir gan Google Talk, Asterisk, a nifer o ddyfeisiau meddalwedd a chaledwedd. Protocol cyfathrebu hynach yw H323, a ddefnyddir o fewn Microsoft Netmeeting a rhai offer telathrebu.

Mae Ekiga hefyd yn cynnal STUN er mwyn llwybro drwy amryw furiau caled, gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio NAT (Network Address Translation). Mae hyn yn golygu y gallwch chi ddefnyddio Ekiga i wneud ac i dderbyn galwadau heb orfod cael cyfeiriad IP cyhoeddus, na blaenyrru pyrth o'ch llwybrydd.

Ffigwr 5Gwneud galwad SIP gyda Ekiga

Gall ddefnyddwyr hefyd agor cyfrif â Ekiga.net, fydd yn darparu cyfeiriad SIP iddyn nhw, ellir ei ddefnyddio ar y Rhyngrwyd i wneud a derbyn galwadau o bob man.

1.5. Gwell Rheolaeth Ffenestri

Mae nifer o nodweddion newydd wedi eu hychwanegu at Metacity er mwyn gwella rheolaeth ffenestri. Mae ymylon ffenestri yn awr â nodwedd 'magnetig', sy'n ei gwneud hi'n bosib i "glicio" ffenestri at ei gilydd. Mae gwell cynhaliaeth yn awr i amryw (bennau) monitor o fewn Metacity. Bellach, bydd Metacity yn ceisio cysoni ffenestri sydd am ffinio dau fonitor, fel eu bônt yn ymddangos ar un o'r monitors yn unig.

I gynorthwyo gweinyddwyr a'r rhai sy'n defnyddio fwy nag un peiriant o'r un gweinydd X, bydd enw gwesteiwr yn cael ei ddangos ar far teitl ffenestri nad ydynt yn rhedeg yn lleol. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddio wrth newid gosodiadau ar beiriannau mewn modd graffigol, er mwyn sicrhau eich bod chi'n newid gosodiadau ar y peiriant cywir.

Ffigwr 6Rhedeg yr un ffenestr yn lleol ac yn bell

1.6. Bar Penbwrdd

Mae'r Bar Penbwrdd yn newydd i GNOME. Bydd defnyddwyr medrus, rhai sy'n hoff o'r bysellfwrdd, a defnyddwyr hen linell orchymyn y panel yn croesawu'r datblygiad pwerus hwn sy'n hawdd iawn ei ddefnyddio. Mae'r Bar Penbwrdd yn defnyddio ategion (wedi'u hysgrifennu yn Python) i ddarparu gwasanaethau chwilio am raglenni, ffeiliau, plygellau, llyfrnodau, cysylltiadau a llawer mwy. Gall y Bar Penbwrdd hefyd ddefnyddio gwasanaethau chwilio byw Google Live, Yahoo a Beagle.

Ffigwr 7Chwilio am 'net'

Medr y Bar Penbwrdd weithio o fewn y panel, ac mewn modd wedi cwympo ar gyfer paneli fertigol neu baneli gyda dim ond ychydig o le rhydd. I chwilio, gwasgwch (Alt-F3) a rhoi'r termau. Gallwch hefyd bori neu chwilio'ch gorchmynion cynt.

1.7. Gwelliannau Mewngofnodi

Gwelir nifer o welliannau o fewn y system fewngofnodi (GDM). Mae'r gwelliannau bach ond pwysig sydd yng ngweddill y penbwrdd wedi treiddio i mewn i'r system fewngofnodi. Mae botwm "Opsiynau" estynedig wedi ei gynnwys o fewn y cyfarchwr mewngofnodi, sy'n rhoi mynediad hawdd i amryw nodweddion mewngofnodi. Mae nodwedd "pell, diogel" wedi ei hychwanegu, fel y gall defnyddwyr gysylltu â gweinydd X yn ddiogel ac yn hawdd. Mae diwyg y cyfarchwr mewngofnodi hefyd wedi gwella, gan fod gan y defnyddiwr fwy o benrhyddid i addasu ei olwg.

Ffigwr 8Mae hi'n haws nag erioed yn awr i newid eich hoffterau mewngofnodi yn y ffenestr hoffterau GDM, sydd wedi ei hail-ddylunio'n gyfangwbl.

Sylwer: Mae'r ffeil sy'n gadael i ddefnyddwyr osod eu hoffterau cyflunio GDM eu hunain wedi newid o /etc/gdm/gdm.conf i /etc/gdm.custom.conf. Am fwy o wybodaeth, gweler tudalennau Prosiect GDM.

1.8. Newid Defnyddwyr yn Gyflym

Mae GNOME 2.14 yn cynnal newid defnyddiwr yn chwim, drwy gydol y penbwrdd. Mae'r deialogau allgofnodi a chloi sgrin yn rhoi'r opsiwn i newid i ddefnyddiwr arall. Gellir ychwanegu dewislen at y panel hefyd, sy'n ffordd gyflym o newid defnyddiwr.

Ffigwr 9Newid defnyddiwr yn chwim o'r panel
Ffigwr 10Newid defnyddwyr o sesiwn sydd wedi'i chloi

1.9. Rhannu Calendrau

Nodwedd newydd yn Evolution 2.6 yw calendrau wedi'u rhannu drwy CalDAV. Mae nifer o weinyddion gwaith grŵp yn cynnal protocol rhannu calendrau CalDAV, gan gynnwys gweinydd Hula, sydd ar gael yn rhydd.

Ffigwr 11Gwylio calendr wedi'i rannu, o Hula

1.10. Llyfrnodau Clyfrach

Mae Porwr Gwe Epiphany yn parhau i wneud pori'r we fyd eang yn haws. Yn newydd yn y fersiwn hon, ceir adeiladu hierarchaeth llyfrnodau yn awtomatig. Mae hyn yn lleihau'r baich o ddelio â chasgliadau mawr o lyfrnodau, ond yn dal i gadw'r system symlach o ddosbarthu llyfrnodau yn ôl testun, sy'n boblogaidd yn Epiphany. Mae testunau llawer yn haws erbyn hyn i'w dewis a'u creu; mae Epiphany hyd yn oed yn dewis testunau yn seiliedig ar eich arferion cynt.

Ffigwr 12Gwell rheolaeth ar lyfrnodau a thaflenni arddull

Mae'r fersiwn hon hefyd yn cynnal taflenni arddull sydd wedi'u diffinio gan y defnyddiwr, sy'n cynnig gwell hygyrchedd, a mwy o reolaeth i'r defnyddiwr dros gyflwyniad y dudalen. Y tu ôl i'r llenni, gall Epiphany yn awr ddefnyddio Firefox, Mozilla neu XULRunner fel ochr gefn. Os ydych chi'n defnyddio NetworkManager, gall Epiphany ganfod eich gosodiadau rhwydwaith yn awtomatig.

1.11. Golygydd Gwell

Mae Gedit yn parhau i gyfuno golygu testun syml, mewn ffordd hawdd ei ddefnyddio, gyda'r holl gyfleusterau sydd angen arnoch chi i ddatblygu rhaglenni neu dudalennau gwe. Mae nodweddion Gedit 2.14 yn cynnwys delio'n well ag amryw ddogfennau, ac ysgrifennu at ffeiliau pell. Er enghraifft, medr Gedit yn awr bori a golygu cyfeiriaduron SFTP, FTP a WebDAV yn syth o'r porwr ffeiliau. Mae amlygu cystrawen HTML, PHP, PSP a llawer mwy hefyd wedi ei wella. Mae'r nodweddion hyn yn dod ynghyd yn Gedit i greu golygydd testun pwerus, fedr ddelio a'r holl dasgau sy'n cael eu gwneud gan ddefnyddwyr.

Ffigwr 13Gall Gedit ddelio ag amryw ffeiliau craidd yn hawdd, a'u hagor a'u cadw nhw'n lleol neu dros y rhwydwaith

Mae'r gallu i ysgrifennu ategion i Gedit, yn Python, hefyd yn newydd. Mae hyn yn gadael i Gedit gael ei estyn a'i addasu'n hawdd, hyd yn oed os nad ydych chi'n rhaglennydd medrus. Mae rhai ategion defnyddio ddaw gyda Gedit yn cynnwys un i redeg gorchmynion allanol, un i gynnal cwblhau tagiau, a chonsol rhyngweithiol i Python.

Ffigwr 14Deialog ategion sy'n dangos priodweddau'r ategyn Gorchmynion Allanol

1.12. Gwelydd Delweddau

Mae i Welydd Delweddau GNOME far offer newydd ar gyfer llywio. Nawr wrth i chi agor delwedd, gallwch weld delweddau eraill yr un cyfeiriadur yn hawdd.

Ffigwr 15Llywio'n hawdd drwy'r delweddau yn yr un cyfeiriadur

1.13. Arbedwr Sgrin yn Rhan o GNOME

Mae arbedwr sgrin erbyn hyn yn rhan gynhenid o GNOME. Mae Arbedwr Sgrin GNOME yn cynnal yr "haciau" sy'n boblogaidd o fewn Xscreensaver, ond mae iddo hefyd lawer o nodweddion newydd nad ydynt ar gael yn Xscreensaver. Gall rhaglenni sy'n ymwybodol o GNOME Screensaver gysylltu er mwyn gosod priodweddau fel "peidio â gwacáu'r sgrin", drwy ryngwyneb safonol. Mae deialogau fel yr un i ddatgloi sgrin yn awr wedi'u cyfieithu i ieithoedd eraill, ac maent ar gael i ddefnyddwyr ag anabledd. Mae'r gwelliannau hygyrchedd yma yn gadael i ddefnyddwyr ag anabledd ddatgloi eu sgrin yn hawdd, ac maent yn rhan o'r gwelliannau hygyrchedd sy'n parhau o fewn holl Benbwrdd GNOME.

Ffigwr 16Cyfluniai priodweddau Arbedwr Sgrin GNOME

Gall defnyddwyr sydd am barhau i ddefnyddio Xscreensaver wneud hynny o hyd, ac fe ddylen nhw gysylltu â dogfennaeth eu darparwr am y manylion.

1.14. GStreamer Diweddaraf

Mae GNOME 2.14 yn defnyddio technoleg GStreamer 0.10. Mae fframwaith amlgyfrwng GStreamer yn fframwaith sain a fideo pwerus, y gellir 'plygio' modylau i mewn iddo. Fe'i defnyddir ar beiriannau desg Linux ac UNIX yn ogystal â dyfeisiau mewnol. Mae'r brif fersiwn ddiweddaraf o GStreamer yn gyflymach ac yn fwy sefydlog na'r rhai blaenorol. Mae ymdrechion mawr wedi'u gwneud i gysoni sain a fideo dros ddyfeisiau gwahanol, yn ogystal ag edafu a delio ag ategion amlgyfrwng yn ddeinamig. Fe ddewch o hyd i ragor o wybodaeth am GStreamer ar safle gwe GStreamer.

Mae'r holl raglenni amlgyfrwng sy'n rhan o GNOME wedi eu huwchraddio i gymryd mantais o'r GStreamer newydd; gan gynnwys Totem, Sound Juicer, a'r Rheolwr Sain.

Mae GStreamer 0.10 hefyd yn gadael i ddefnyddwyr gymryd mantais o ategion amlgyfrwng sydd wedi'u dosbarthu gan drydydd parti. Bydd hyn yn gadael i werthwyr meddalwedd gynnig cynnal codecs wedi'u trwyddedu, lle nad oes codec rhad a rhydd ar gael, neu nad oes posib ei ddosbarthu (am resymau cyfreithiol). Gall hyn gynnwys cynnal AC3, WMA, MP3 a mwy. Mae ategyn MP3 sydd wedi'i drwyddedu, ond sydd hefyd ar gael yn rhydd, wedi'i gyhoeddi gan Fluendo, sydd wedi cefnogi GStreamer ers tro.

1.15. Hawdd ei Gyflunio

Mae GNOME yn falch o fod yn hawdd ei gyflunio, gan gynnig dewisiadau syml i ddefnyddwyr ond yn dal i fod yn hyblyg. Mae nifer o elfennau o fewn canolfan rheoli GNOME wedi eu symleiddio, er mwyn i chi osod yr hoffterau sydd angen arnoch yn hawdd ac yn gyflym.

Ffigwr 17Gosodwch hoff raglenni wrth ddewis o restr, neu roi gorchymyn.
Ffigwr 18Dewiswch o restr o'r synau sydd ar gael neu dewiswch eich ffeil eich hun o'r system ffeiliau.

2. Beth sy'n Newydd i Weinyddwyr

O GNOME 2.14 ymlaen, mae Prosiect GNOME yn cynnwys Canolfan Weinyddu, sef casgliad o offer at ddefnydd gweinyddwyr systemau. Mae'r ddau arf newydd sy'n ffurfio cychwyn y ganolfan yn hynod o bwerus, ac fe ddylen nhw fod o gymorth i weinyddwyr, y rhai sy'n rheoli systemau corfforaethol mawr, a'r rhai sydd am gloi peiriannau i lawr.

2.1. Pessulus - Golygydd Clo

Golygydd cloi yw Pessulus, sy'n gadael i weinyddwyr analluogi rhai nodweddion penbwrdd GNOME, fel y dymunir ei wneud o fewn amgylchedd corfforaethol neu gaffi Rhyngrwyd. Mae'n wir fod nodweddion cloi wedi bodoli o fewn GNOME ers amser, ond mae Pessulus yn ei gwneud hi'n llawer haws i weinyddwyr berfformio'r tasgau yma.

Ffigwr 19Defnyddio'r golygydd cloi i rwystro defnyddwyr rhag cau'r system i lawr

Mae rhai o'r nodweddion a ellir eu hanalluogi yn cynnwys:

  • Mynediad llinell orchymyn
  • Y gallu i gau'r peiriant i lawr, neu ei ailgychwyn
  • Y gallu i ddefnyddio protocolau penodol o fewn y porwr gwe
  • Y gallu i olygu paneli GNOME

2.2. Sabayon - Golygydd Proffil

Mae Sabayon yn gadael i weinyddwyr osod proffiliau defnyddwyr i fyny o fewn sesiwn GNOME fyw, ryngweithiol. Pan mae proffil yn cael ei greu neu ei olygu, mae sesiwn GNOME nythog yn cychwyn. Gall y gweinyddwr ddefnyddio hwn i newid pa beth a fynnon nhw o fewn eu sesiwn GNOME nhw'u hunain.

Ffigwr 20Sabayon wrthi'n golygu proffil defnyddiwr

O fewn y ffenestr nythog, gall gweinyddwr system greu proffiliau personol yn dibynnu ar ddisgrifiadau swydd y defnyddwyr (e.e. derbynnydd, clerc cofnodi data, rhaglennydd, rheolwr adnoddau dynol a.y.b.)Gellir cadw'r proffiliau yma a'u gosod ar beiriannau eraill yn hawdd, gan arbed amser lawer i weinyddwr y system. Gellir golygu a gwneud mân newidiadau i'r proffiliau hefyd, yn seiliedig ar adborth y defnyddwyr. Mae eu rhoi mewn man canolog yn symleiddio cynnal a gosod y proffiliau hyn.

3. Beth sy'n Newydd i Ddatblygwyr

Mae Platfform Datblygu GNOME 2.12 yn cynnig sail gadarn i ddatblygwyr meddalwedd annibynnol i greu rhaglenni trydydd-parti. Mae trwydded GNOME a'i blatfform yn caniatáu i feddalwedd rhydd a masnachol redeg ar ben GNOME.

Fe fydd llyfrgelloedd o fewn Platfform GNOME yn sicr o fod ag API ac ABI sefydlog am weddill cyfres GNOME 2.x. Nid oes gan lyfrgelloedd Penbwrdd GNOME yr un warant, ond bydd y rhan fwyaf ohonynt yn gyson o un fersiwn i'r llall.

3.1. GSlice

O GLib 2.10 ymlaen, mae dyrannydd GSlice yn disodli'r APIs hynach (GMemChunk a GTrashStacks) o fewn GLib. Mae GSlice yn debyg iawn i ddyrannydd slab y cnewyllyn ac yn galluogi i strwythurau bach (e.e. elfennau GList, strwythurau GtkWindow) gael eu dyrannu'n gyflym gan ddefnyddio'r lleiaf posib o gof. Nid yw GSlice yn arafu gyda chloi, yn wahanol i GMemChunk, sy'n gwneud GSlice yn llawer cyflymach o fewn rhaglennu ag aml edefyn.

Ffigwr 21Cyflymder dyrannydd cof wrth ddyrannu a rhyddhau 1 miliwn o elfennau GList o fewn 1 (coch), 5 (melyn), 10 (gwyrdd) ac 20 (glas) o edafedd.

Mae GMemChunk wedi ei ail-ysgrifennu i ddefnyddio GSlice heb i'r datblygwr sylwi, ond anghymeradwyir defnyddio API GMemChunk.

I ddyrannu cof gyda'r dyrannydd GSlice, defnyddiwch y ffwythiant g_slice_new (MyStructure);, fydd yn dychwelyd pwyntydd (ptr). I ryddhau cof gafodd ei ddyrannu gan GSlice, defnyddiwch y ffwythiant g_slice_free (MyStructure, ptr);.

Mae GSlice yn defnyddio storfa leol i'r edefyn, ellir newid ei raddfa, o dafellau o wahanol feintiau. Os am ddyrannu llawer o gof, bydd GSlice, yn awtomatig ac yn ddiarwybod i chi, yn defnyddio'r dyrannydd g_malloc, fel nad oes rhaid i ddatblygwyr ddewis y dyrannydd fwyaf effeithiol eu hunain.

3.2. Gwasanaeth Cofrestru

Mae'r GNOME diweddaraf yn cynnig ffordd i ddatblygwyr gofrestru eu rhaglenni er mwyn eu cychwyn yn awtomatig wrth i GNOME gychwyn. I wneud hyn, y cyfan sydd raid ei wneud yw gosod ffeil .desktop o fewn $prefix/share/gnome/autostart/, /etc/xdg/autostart/ neu ~/.config/autostart/. Os ydych chi am osod gwasanaeth, ond ei analluogi fel rhagosodiad, gallwch chi ychwanegu'r briodwedd X-GNOME-autostart-enabled = False.

Mae rhai cyfyngiadau ar gofrestru gwasanaethau yn y fath fodd:

  • Ni ddylai rhaglenni sy'n cofrestru eu hunain gyda'r sesiwn mewn rhyw fodd arall (e.e. nautilus, gnome-panel, vino) hefyd gofrestru eu hunain yn y ffordd yma.
  • Ni fydd yn delio'n lân â rhaglenni mae'r sesiwn yn eu rheoli, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n pasio'r faner --sm-disable ar eich llinell Exec.

4. Ieithoedd

Diolch i aelodau byd-eang Prosiect Cyfieithu GNOME, o dan arweiniad Christian Rose a Danilo Šegan, mae GNOME 2.14 yn cynnal 45 o ieithoedd (gydag o leiaf 80 y cant o'u llinynnau wedi'u cyfieithu).

Ieithoedd a gynhelir:

  • Albaneg (5 miliwn o siaradwyr)
  • Basgeg (580,000)
  • Bengali (189 miliwn)
  • Portiwgaleg Brasil (175 miliwn)
  • Bwlgareg (9 miliwn)
  • Catalan (7 miliwn)
  • Tsieinëeg (Hong Kong)
  • Tsieinëeg (Taiwan) (40 miliwn)
  • Tsieinëeg Symleiddiedig (dros 1 biliwn)
  • Tsieceg (11 miliwn)
  • Daneg (5.3 miliwn)
  • Iseldireg (dros 21 miliwn)
  • Saesneg (341 miliwn)
  • Estoneg (1 miliwn)
  • Ffineg (dros 5 miliwn)
  • Ffrangeg (dros 75 miliwn)
  • Galiseg (3 miliwn)
  • Almaeneg (100 miliwn)
  • Groeg (15 miliwn)
  • Gujarati (46 miliwn)
  • Hindi (370 miliwn)
  • Hwngareg (14.5 miliwn)
  • Indoneseg (230 miliwn)
  • Eidaleg (60 miliwn)
  • Japaneaidd (dros 125 miliwn)
  • Corëeg (75 miliwn)
  • Lithwaneg (4 miliwn)
  • Macedoneg (2 filiwn)
  • Nepali (16 miliwn)
  • Bokmal Norwyeg (5 miliwn)
  • Perseg
  • Pwyleg (44 miliwn)
  • Portiwgaleg (43 miliwn)
  • Pwnjabi (60 miliwn)
  • Rwmaneg (26 miliwn)
  • Rwsieg (170 miliwn)
  • Serbeg (10 miliwn)
  • Slovak (5 miliwn)
  • Sbaeneg (dros 350 miliwn)
  • Swedeg (9 miliwn)
  • Eidaleg (60 miliwn)
  • Tyrceg (150 miliwn)
  • Wcraneg (50 miliwn)
  • Fietnameg (5 miliwn)
  • Cymraeg (575,000)

Sylwer fod Basgeg, Bengali, Tseinëeg (Hong Kong), Estoneg a Pherseg yn ieithoedd sydd wedi eu cynnal am y tro cyntaf yn GNOME 2.14, diolch i waith caled eu cyfieithwyr. Gwerth nodi hefyd fod Saesneg Prydain a Chanada wedi ei gynnal.

Mae nifer fawr yn fwy o ieithoedd wedi'u rhannol cynnal, gyda mwy na hanner eu llinynnau wedi'u cyfieithu.

5. Gosod GNOME

Fe allwch chi flasu GNOME 2.14 ar y CD Byw sy'n cynnwys yr holl feddalwedd sy'n rhan o GNOME 2.14 ar yr un CD. Gellir ei lwytho i lawr o safle BitTorrentGNOME, neu GNOME FTP.

I osod neu uwchraddio'ch peiriant i GNOME 2.14, rydym yn argymell eich bod yn gosod pecynnau swyddogol, fel y rhai ar gyfer eich dosbarthiad Linux. Mae dosbarthiadau poblogaidd yn debygol o becynnu GNOME 2.14 yn gymharol gyflym, ac mae gan rai fersiynau datblygu eisoes sy'n cynnwys GNOME 2.14. Cewch restr o'r dosbarthiadau sy'n cynnwys GNOME, a'r fersiwn ddiweddaraf maen nhw'n eu cynnwys ar y dudalen wybodaeth am ddosbarthiadau.

Os ydych chi'n ddewr ac amyneddgar, a'ch bod chi adeiladu GNOME o'r ffynhonnell graidd, ein hargymhelliad yw i chi ddefnyddio un o'r offer adeiladu. Mae GARNOME yn adeiladu GNOME o'r tar-beli sydd wedi eu rhyddhau. Bydd angen GARNOME 2.14.x arnoch i adeiladu GNOME 2.14.x. Mae jhbuild ar gael hefyd, fydd yn adeiladu'r GNOME diweddaraf o CVS. Gallwch hefyd ddefnyddio jhbuild i adeiladu GNOME 2.14.x gan ddefnyddio'r set fodylau gnome-2-14.

Ar gyfer y rhai sydd wir am grynhoi'r holl benbwrdd â llaw, y drefn i grynhoi'r modylau ynddi yw: libxml2, libxslt, gnome-common, intltool, scrollkeeper, gtk-doc, glib, libIDL, ORBit2, libbonobo, fontconfig, Render, Xrender, cairo, Xft, pango, atk, shared-mime-info, gtk+, gconf, desktop-file-utils, gnome-mime-data, avahi, dbus, hal, gnome-vfs, audiofile, esound, libgnome, libart_lgpl, libglade, libgnomecanvas, libbonoboui, hicolor-icon-theme, icon-naming-utils, gnome-icon-theme, gnome-keyring, libgnomeui, startup-notification, gtk-engines, gnome-themes, gnome-doc-utils, gnome-desktop, libwnck, libgpg-error, libgcrypt, libtasn1, opencdk, gnutls, libsoup, mozilla, evolution-data-server, gnome-python/pygobject, pycairo, gnome-python/pygtk, gnome-menus, gnome-panel, gnome-session, vte, gnome-terminal, libgtop, gail, libxklavier, gstreamer, liboil, gst-plugins-base, gucharmap, system-tools-backends, gnome-applets, metacity, libgsf, libcroco, libgnomecups, libgnomeprint, libgnomeprintui, librsvg, eel, nautilus, control-center, yelp, bug-buddy, gtksourceview, gnome-python/pyorbit, gnome-python/gnome-python, nautilus-cd-burner, gst-plugins-good, libmusicbrainz, iso-codes, totem, gnome-media, gnome-python/gnome-python-desktop, gedit, eog, gconf-editor, gnome-utils, gnome-system-monitor, gnome-netstatus, gcalctool, zenity, at-spi, libgail-gnome, gnome-speech, gnome-mag, gnopernicus, gok, epiphany, gob2, gnome-games, gnome-user-docs, file-roller, gnome-system-tools, gnome-nettool, vino, gnome-volume-manager, gnome-backgrounds, sound-juicer, gtkhtml, evolution, evolution-webcal, evolution-exchange, ekiga, poppler, evince, dasher, gnome-keyring-manager, deskbar-applet, fast-user-switch-applet, gnome-screensaver, pessulus, sabayon.

Er gwybodaeth y darperir y rhestr hon, ac awgrymwn yn gryf i unrhyw un sydd am grynhoi GNOME o'r ffynhonnell i geisio defnyddio un o'r offer adeiladu a restrir uchod.

6. Ymlaen at GNOME 2.16

Yn naturiol, nid yw'r datblygu'n dod i ben gyda GNOME 2.14. Chwe mis i'r dydd caiff GNOME 2.14 ei ryddhau, bydd GNOME 2.16 yn dilyn, gan adeiladu ar seiliau gwych yr hyn sy'n bodoli eisoes.

I edrych ymlaen atynt yn GNOME 2.16 mae:

  • GTK+ 2.10, sydd yn cynnwys llawer o waith Project Ridley
  • Themâu'n seiliedig ar Cairo 1.2
  • Cynhaliaeth i ddylunio cyfansawdd, blendio alffa, cysgodion cwymp, ffenestri tryloyw a mwy
  • Cynhaliaeth integredig i reoli pŵer drwy GNOME Power Manager
  • Teclynnau newydd i ddatblygwyr, gan gynnwys teclynnau hysbysu ac argraffu

Ceir mwy o wybodaeth am gynllun datblygu GNOME 2.16 cyn bo hir, wrth i'r datblygu cychwyn. Edrychwch am fanylion ar ein tudalen ddatblygu.

Ffigwr 22Rheolydd Pŵer GNOME, gynllunnir iddo ymddangos yn GNOME 2.16.

7. Dod yn Rhan o GNOME

Mae bod yn rhan o dîm GNOME yn brofiad eithriadol o foddhaol. Byddwch yn cwrdd â channoedd o bobl frwdfrydig, o bob math, o bob cwr o'r byd. Gall cyfranwyr medrus a dygn i GNOME brofi cyfleoedd newydd o ran cydnabyddiaeth, cyfleoedd i siarad, a hyd yn oed cyflogaeth.

Fel defnyddiwr, gall eich cyfraniad fod mor syml ag adrodd namau'n dda o fewn ein system olrhain namau, Bugzilla. Bydd y canllaw namau syml yn eich arwain drwy'r broses o adrodd eich namau cyntaf. Os am gyfrannu mwy, ymunwch â'n sgwad namau, tîm pwrpasol sy'n brysbennu a chategoreiddio namau cyffredin, er budd datblygwyr. Gallwch chi neu eich busnes hefyd ddod yn Ffrind i GNOME.

Os am ddatblygu GNOME, cewch brofi cyffro un o'n grwpiau datblygu bywiog - hygyrchedd, dogfennaeth, defnyddioldeb, cyfieithu, gwe, profi, graffeg, datblygiad platfform a phenbwrdd. Os am fwy o wybodaeth, darllenwch ein canllaw ar sut i Ymuno â GNOME.

Ymunwch â ni heddiw i brofi'r gwahaniaeth allwch chi ei wneud.

1. Diolchiadau

Crynhowyd nodiadau'r fersiwn gan Davyd Madeley ac fe'u golygwyd gan Bob Kashani gyda llawer o gymorth oddi wrth gymuned GNOME. Ar ran y gymuned, estynnwn ddiolch gwresog i'r datblygwyr a'r cyfranwyr wnaeth y fersiwn hon o GNOME yn bosib.

Gellir cyfieithu'r gwaith hwn i unrhyw iaith. Os hoffech chi ei gyfieithu i'ch iaith eich hun, cysylltwch â Phrosiect Cyfieithu GNOME.