Beth sy'n Newydd i Ddatblygwyr

Mae Platfform Datblygu GNOME 2.12 yn cynnig sail gadarn i ddatblygwyr meddalwedd annibynnol i greu rhaglenni trydydd-parti. Mae trwydded GNOME a'i blatfform yn caniatáu i feddalwedd rhydd a masnachol redeg ar ben GNOME.

Fe fydd llyfrgelloedd o fewn Platfform GNOME yn sicr o fod ag API ac ABI sefydlog am weddill cyfres GNOME 2.x. Nid oes gan lyfrgelloedd Penbwrdd GNOME yr un warant, ond bydd y rhan fwyaf ohonynt yn gyson o un fersiwn i'r llall.

3.1. GSlice

O GLib 2.10 ymlaen, mae dyrannydd GSlice yn disodli'r APIs hynach (GMemChunk a GTrashStacks) o fewn GLib. Mae GSlice yn debyg iawn i ddyrannydd slab y cnewyllyn ac yn galluogi i strwythurau bach (e.e. elfennau GList, strwythurau GtkWindow) gael eu dyrannu'n gyflym gan ddefnyddio'r lleiaf posib o gof. Nid yw GSlice yn arafu gyda chloi, yn wahanol i GMemChunk, sy'n gwneud GSlice yn llawer cyflymach o fewn rhaglennu ag aml edefyn.

Ffigwr 21Cyflymder dyrannydd cof wrth ddyrannu a rhyddhau 1 miliwn o elfennau GList o fewn 1 (coch), 5 (melyn), 10 (gwyrdd) ac 20 (glas) o edafedd.

Mae GMemChunk wedi ei ail-ysgrifennu i ddefnyddio GSlice heb i'r datblygwr sylwi, ond anghymeradwyir defnyddio API GMemChunk.

I ddyrannu cof gyda'r dyrannydd GSlice, defnyddiwch y ffwythiant g_slice_new (MyStructure);, fydd yn dychwelyd pwyntydd (ptr). I ryddhau cof gafodd ei ddyrannu gan GSlice, defnyddiwch y ffwythiant g_slice_free (MyStructure, ptr);.

Mae GSlice yn defnyddio storfa leol i'r edefyn, ellir newid ei raddfa, o dafellau o wahanol feintiau. Os am ddyrannu llawer o gof, bydd GSlice, yn awtomatig ac yn ddiarwybod i chi, yn defnyddio'r dyrannydd g_malloc, fel nad oes rhaid i ddatblygwyr ddewis y dyrannydd fwyaf effeithiol eu hunain.

3.2. Gwasanaeth Cofrestru

Mae'r GNOME diweddaraf yn cynnig ffordd i ddatblygwyr gofrestru eu rhaglenni er mwyn eu cychwyn yn awtomatig wrth i GNOME gychwyn. I wneud hyn, y cyfan sydd raid ei wneud yw gosod ffeil .desktop o fewn $prefix/share/gnome/autostart/, /etc/xdg/autostart/ neu ~/.config/autostart/. Os ydych chi am osod gwasanaeth, ond ei analluogi fel rhagosodiad, gallwch chi ychwanegu'r briodwedd X-GNOME-autostart-enabled = False.

Mae rhai cyfyngiadau ar gofrestru gwasanaethau yn y fath fodd:

  • Ni ddylai rhaglenni sy'n cofrestru eu hunain gyda'r sesiwn mewn rhyw fodd arall (e.e. nautilus, gnome-panel, vino) hefyd gofrestru eu hunain yn y ffordd yma.
  • Ni fydd yn delio'n lân â rhaglenni mae'r sesiwn yn eu rheoli, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n pasio'r faner --sm-disable ar eich llinell Exec.