Beth sy'n Newydd i Ddatblygwyr
Mae Platfform Datblygu GNOME 2.12 yn cynnig sail gadarn i ddatblygwyr meddalwedd, ac i Benbwrdd GNOME ei hun. Mae GNOME 2.12 yn ychwanegu rhai gwelliannau i'r API a gwelliannau sy'n weladwy i'r defnyddiwr. Mae hefyd yn gytûn a fersiynau blaenorol, ac mae'r API yn sefydlog. Yn ogystal, mae'n ei wneud yn haws i redeg rhaglenni sy'n rhedeg ar Unix a Windows, a defnyddio safonau pwysig sy'n hwyluso rhyngweithio â phenbyrddau eraill.
- 3.1. Gwelliannau GTK+
- 3.2. Traws-blatfform
- 3.3. Yn Unol â Safonau
3.1. Gwelliannau GTK+
O fewn GNOME 2.12, mae GTK+ 2.8 yn cynnig nodweddion newydd sy'n weladwy i'r defnyddiwr, er enghraifft
- Mae GTK+ yn awr yn defnyddio Cairo, yr API llunio oddi wrth freedesktop, sy'n cynnig effeithiau newydd ac yn ei gwneud hi'n haws i luniadu teclynnau addasedig. Yn y dyfodol agos, dylai hyn alluogi GNOME i ddefnyddio effeithiau graffeg newydd a chymryd mantais o gyflymwyr caledwedd, yn ogystal â gwella'r APIs argraffu.
- Mae cynhaliaeth llusgo-a-gollwng wedi ei wella, ac erbyn hyn mae'n cynnig rhagolwg o flociau testun wrth i chi eu llusgo.
Yn ogystal â'r newidiadau yma, y gall bob rhaglen seiliedig ar GTK eu defnyddio heb ail-grynhoi, mae nifer o APIs newydd wedi eu hychwanegu i wneud datblygiad hyd yn oed yn haws. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Gall GTKFileChooser yn awr ddangos deialog cadarnhau trosysgrifo ffeil wrth ei chadw.
- Gall GtkWindow awgrymu pwysigrwydd, gan gyfarwyddo'r rheolwr ffenestri i fflachio teitl y ffenestr, er enghraifft.
- Mae GtkIconView yn awr yn rhoi'r rhyngwyneb GtkLayout ar waith, a gall rendro eitemau drwy GtkCellRendererCells.
- Mae GtkTextView yn awr yn gadael i chi osod lliw cefndir paragraffau, a gallwch hepgor testun anweledig wrth ailadrodd.
- Mae gan GtkScrolledWindow ffwythiannau i gael gafael ar y bariau sgrolio.
- Mae GtkMenu yn cynnal dewislenni fertigol (wedi'u ham-droi), a gall anwybyddu ffocws y bysellfwrdd ar gyfer rhaglenni arbennig, fel y bysellfwrdd ar-y-sgrin.
- Gall naidlen GtkEntryCompletion yn awr fod yn lletach na'r cofnod, a gellir hepgor y naidlen pan mai dim ond un eitem sy'n cydweddu.
- Gellir amlapio testun trwydded GtkAboutDeialog erbyn hyn.
- Gall GtkToolButton yn awr ddefnyddio eiconau penodol o themâu eicon, a gellir defnyddio'r eiconau yma hefyd wrth lusgo.
- Gall GtkSizeGroup anwybyddu teclynnau cudd.
Gweler hefyd rhestr lawn yr APIs newydd o fewn GTK+ 2.8.
3.2. Traws-blatfform
Mae'r llyfrgell GTK+ eisoes yn boblogaidd ymysg datblygwyr sydd raid iddyn nhw gynnal aml blatfformau, gan gynnwys Windows yn ogystal â Linux ac Unix. Er enghraifft, gall dylunwyr olygu eu delweddau gan ddefnyddio GIMP ac Inkscape ar naill ai Linux neu Windows.
Ac yn awr mae llawer mwy o lyfrgelloedd GNOME, gan gynnwys ORBit2, libbonobo, libgnome, libbonoboui, libgnomeui a gnome-vfs, yn medru adeiladu ar Microsoft Windows, sy'n ei gwneud hi'n haws i adeiladu a dosbarthu rhaglenni GNOME ar y platfform yna. Er nad yw'r gynhaliaeth yn gyflawn eto, gall fod yn ddigonol i rai rhaglenni, a disgwylir bydd y gynhaliaeth yn gyflawn o fewn fersiynau nesaf GTK+ a GNOME.
3.3. Yn Unol â Safonau
Mae GNOME yn cydweithio'n agos â grwpiau fel freedesktop.org. Mae cynnal safonau o'r fath yn fantais fawr i ddatblygwyr a defnyddwyr GNOME. Mae'r gallu i gyd-ddefnyddio rhaglenni yn gwella profiad defnyddwyr gan adael i raglenni GNOME, KDE ac eraill gyd-weithio'n haws, ac mae dilyn safonau agored yn sicrhau nad yw data defnyddwyr wedi ei faglu o fewn fformatau cudd.
Mae datblygwyr GNOME yn gweithio'n galed, ar y cyd ag eraill drwy Freedesktop.org, er mwyn datblygu safonau ar gyfer rhyngweithio. Mae'r safonau'n cynnwys: cronfa MIME gyffredin, themâu eicon, ffeiliau diweddar, dewislenni, cofnodion penbwrdd, rheolaeth cipluniau, a'r system tray specifications. In addition, GNOME supports CORBA, XML, Xdnd, EWMH, XEMBED, XSETTINGS, and XSMP.